Nodiant mathemategol

Esiampl o nodiant graffigol Penrose; esiamplau symlach yw "a", "b", "c" i gynrychioli cysonion ac x, y, z am anhysbysion[1]
I William Jones (1675 – 1749) mae'r clod am y nodiant π (pi).

Mae nodiant mathemategol yn ddull o gynrychioli syniadau a gwrthrychau gyda symbolau. Defnyddir nodiannau mathemategol mewn mathemateg, a phynciau eraill, megis y gwyddorau ffisegol, peirianneg ac economeg. Mae nodiannau mathemategol yn cynnwys cynrychioliadau symbolaidd cymharol syml, megis y rhifau "0", "1" a "2"; symbolau ffwythiannol megis "tan"; symbolau gweithredol megis "+"; symbolau cysyniadol megis "lim" a "dy /dx"; hafaliadau a newidynnau; a nodiadau diagramatig cymhleth megis nodiant graffigol Penrose a diagramau Coxeter-Dynkin.

Mae nodiant mathemategol yn system ysgrifennu a ddefnyddir ar gyfer cofnodi cysyniadau mewn mathemateg. Mae'n defnyddio symbolau neu ymadroddion symbolaidd y bwriedir iddynt gael ystyr semantig manwl. Dros ddwy fil o flynyddoedd, mae'r symbolau hyn wedi dynodi rhifau, siapiau, patrymau, a newid. Mae'r cyfryngau a ddefnyddir ar gyfer ysgrifennu'r nodiant yn cynnwys deunyddiau cyffredin fel papur a phensil, bwrdd a sialc (neu farciwr), a chyfryngau electronig.

  1. termau.cymru; Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 17 Hydref 2018

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne